Mae'r cytser Andromeda yn cynrychioli merch y Brenin Cepheus a'r Frenhines Cassiopeia o Ethiopia a gwraig Perseus. Amlinellwyd y cytser yn gyntaf gan Ptolemy yn yr ail ganrif.
Gwraig ofer oedd Cassiopeia a dywedwyd hi oedd y fenyw harddaf yn y byd, hyd yn oed yn fwy prydferth na nymffau'r môr ( Y Nereids). Cwynodd y duwiesau i Poseidon, duw'r môr, i geisio dial ar Cassiopeia. Rhyddhaodd Poseidon y kraken Cetus ar y deyrnas.
Er mwyn amddiffyn ei diroedd, ymgynghorodd Cepheus â thair gwrach doeth oedd â'r pwer rhagwelediad. Dywedwn ddylai Cepheus aberthu Andromeda. Cafodd Andromeda ei gadwyno gan Cepheus i'r clogwyn môr yn aros i Cetus gyrraedd.
Roedd Perseus yn mynd heibio ar y ceffyl asgellog Pegasus a gwelodd gyflwr Andromeda. Disgynnodd i lawr er mwyn achub achub y dywysoges trwy droi Cetus yn garreg gan ddefnyddio pen Medusa.