Ym mytholeg, roedd Cassiopeia yn wraig ofer i Cepheus ac yn fam i Andromeda. Pe na buasai hi wedi dweud fod ei phrydferthwch yn fwy na harddwch y duwiau, ni fuasai hi wedi dwyn cymaint o ddioddefaint i'w theulu! Disgrifiodd Milton hi fel brenhines ofer yn dod â dinistr i lawr ar bennau ei chartref trwy ddweud bod ei harddwch hi a harddwch ei merch yn fwy na nymffau môr Poseidon. Yna anfonodd Cetus, yr anghenfil môr, i ysbeilio’r wlad nes i Perseus ei ladd ac achub Andromeda.
Pe na bai hi wedi gwneud hynny, byddai gennym awyr yn llawn cytserau ag enwau gwahanol arnynt, gan fod Cassiopeia yn rhan anwahanadwy o chwedl Perseus.