Mae cytser Lepus, "Yr Ysgyfarnog", yn gwasgariad o sêr i'r de o Orion, ac yn ôl pob tebyg mae'n ysglyfaeth yr heliwr. O weld y cytser, rhaid fod Orion wedi ei rhedeg drosodd ag ager-roller, gan ei fod yn glwstwr brith o ser heb unrhyw debygrwydd i gwningen o gwbl! Mae Lepus yn gytser arall a gydnabuwyd gan Ptolemy, roedd y Babiloniaid hefyd yn ei gweld fel ffigwr ysgyfarnog, ac felly hefyd yr Eifftiaid, a ystyriai'r ysgyfarnog yn ymgnawdoliad o un o'u duwiau, ac yn eu chwedlau seryddol cynharaf roedd yn gysylltiedig â'r cwch Osiris.