Lyra

Mae’r grŵp hwn yn un o gytserau mwyaf hawdd ei hadnabod yn yr awyr, yn hongian yn agos at y Llwybr Llaethog, yn gydymaith i Cygnus ac yr un mor ddiddorol. Mae'n debyg bod Lyra yn grŵp sy'n dathlu dyfeisio'r offeryn cerdd y lyre, neu fel y byddai'r chwedl yn adrodd yn cynrychioli telyneg y cerddor enwog Orpheus; yr oedd ei gerddoriaeth mor brydferth fel y gallai swyno dyn ac anifail â'i chwareu. Er ei fod yn gerddor da, nad oedd Orpheus yn gwradawr dda, fel y mae chwedl Orpheus a'i wraig Eurydice yn ei ddangos. Bu farw Eurydice, wedi'i ladd gan dduwiesau cenfigennus oedd eisiau i Orpheus chwarae drostynt. Ar ol ei marwolaeth, gofynodd Orpheus ar Hades, rheolwr yr isfyd i'w rhyddhau rhag marwolaeth, gan ei fod yn ei charu gymaint. Er mwyn gynorthwyo ei benderfyniad, chwaraeodd Orpheus gymysgedd o gerddoriaeth hardd yn yr isfyd iddo ac ildiodd Hades, ar yr amod na fyddai Orpheus yn edrych ar yn ôl at Eurydice wrth iddo deithio i fyd dynion eto. Anufuddhaodd Orpheus a throdd i edrych yn ôl yn union fel yr oedd ar fin camu allan o'r ogof yn arwain at yr isfyd, a chollodd Eurydice am byth. Crwydrodd Orpheus mewn trallod gan y golled hon ac mewn sioc, crwydrodd yn ystod y nos i wledd o Bacchus a chafodd ei rwygo'n ddarnau gan y dorf cynddeiriog. Cymerwyd ei delyn, a ddarganfuwyd yn y pen draw ymhlith y dyrfa, gan y duw Apollo, a'i gosod yn yr awyr er anrhydedd i gerddoriaeth Orpheus.

Gwrthrychau Nodweddol

Y seren ddisglair Vega, y nifwl planedol Messier 57.